Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Chwefror 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4907
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 a 4 -10. Ni ofynnwyd cwestiynau 1 a 3. Atebwyd cwestiwn 5 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (i’w ateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant):
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau plant ym Mhowys yn sgil adroddiad gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am farwolaeth plentyn o dan ofal y Cyngor Sir?
Dechreuodd yr eitem am 15.32
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad ar Y Cyfnod/ Corwen Times
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Hyrwyddwyr Rhywogaethau yn ‘Show the Love’ ar y Dydd Sant Ffolant hwn.
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad ar y chwaraewr rygbi Arthur ‘Monkey’ Gould.
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM6659 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Dawn Bowden (Llafur).
NDM6660 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Mick Antoniw (Llafur).
NDM6661 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle of Lee Waters (Llafur).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM6635
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cefnogwyd gan
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol perthnasol.
2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy.
3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu tai nad yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau yn fytholbarhaus.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd.
7. Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM6654 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
.
Dechreuodd yr eitem 17.47
NDM6658
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd iechyd meddwl da.
2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6658
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd iechyd meddwl da.
2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
6 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.44
Dechreuodd yr eitem am 18.45
NDM6650 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Bod yn ddoeth o ran tlodi tanwydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2018